Mae’r Urdd yn ystyried cynnal yr eisteddfod ar un safle parhaol, meddai Aled Siôn.
Fe ddaeth Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd heddiw (dydd Mercher, Mai 30) wrth iddo gadarnhau bod y mudiad wedi bod yn cynnal trafodaethau mewnol ers mis Gorffennaf 2017.
Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddodd golwg360 fod trafodaethau’n digwydd ar nifer o feysydd posib.
“Mae’r drafodaeth wedi cynnwys manteision, anfanteision, rhagoriaethau, gwendidau, y bygythiadau a’r cyfleoedd yr opsiynau gwahanol gan hefyd rhestru agweddau rhanddeiliad eraill,” meddai Aled Siôn.
“Rydyn ni wedi trafod materion ariannol presennol yr Eisteddfod a’r buddsoddiad blynyddol er mwyn adeiladu’r Maes a chynnal yr Eisteddfod.
“Ond mae’n nodi hefyd manylion a chyfleoedd posib pe bai’r Urdd yn berchen ar faes aml bwrpas… i gynnal nid yn unig Eisteddfod yr Urdd a digwyddiadau eraill yr Urdd, ond hefyd digwyddiadau amrywiol eraill gan sefydliadau eraill, a hefyd bod ’na ddarpariaeth ar gyfer hamddena, lletya, cynadledda, ac yn blaen.”
Bydd y trafod yn datblygu’n “astudiaeth ddichonoldeb”, a fydd, gyda sêl bendith Bwrdd yr Eisteddfod, yn cael ei chomisiynu gan yr Urdd er mwyn edrych ar y posibiliadau.
Datblygu
“Yr hyn sydd tu ôl i’r holl broses yw’r ffaith pam yr ydym yn cynnal yr Eisteddfod,” meddai Aled Siôn wedyn. “Os mai’r bwriad yw cynnal gŵyl lwyddiannus mewn ardaloedd gwahanol yn flynyddol, yna rydym yn llwyddo.
“Ond, a ydyn ni’n datblygu’r celfyddydau? A ydyn ni’n sicrhau mwy o gyfleoedd i’n plant a phobol ifanc o dan y drefn bresennol? Oes yna ddatblygiad celfyddydol?
“Fe fydd y cyfan nawr yn mynd ôl gerbron Bwrdd yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf, gyda’r awgrym i Gyngor yr Urdd bod y mudiad yn comisiynu astudiaeth fanylach, astudiaeth dichonoldeb i’r posibilrwydd o leoli Eisteddfod yr Urdd mewn un lleoliad,” meddai.