Mae dynes o Lanelli wedi derbyn dirwy o bron i £500 am ollwng stwmpyn sigarét ar reiliau.

Fe gafodd Daisy Marie Beck, 22 oed, o’r Pwll ei gorfodi i dalu’r ffi gan Lys Ynadon Llanelli ar ôl iddi gael ei dal gan swyddogion y Cyngor Sir.

Roedden nhw wedi ei gweld yn cyflawni’r drosedd yng Ngorsaf Fysiau Llanelli ym Mhorth y Dwyrain fis Medi’r llynedd, pan ollyngodd hi’r stwmpyn sigarét ar reiliau diogelwch cyn cerdded i ffwrdd tuag at siop.

Ar ôl iddi fethu â thalu cosb benodedig gan y Cyngor Sir, fe aeth yr achos i’r llys, lle mae bellach wedi’i gorfodi i dalu diryw o £120, ynghyd â chostau gwerth £370.04.

Dim esgus

“Nid oes esgus dros ollwng sbwriel, a bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd gan ein swyddogion yn gorfod wynebu’r canlyniadau,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr.

“Mae gollwng sbwriel yn anharddu’r dirwedd ac yn costio llawer o arian i’r Cyngor – arian y gellid gwneud gwell defnydd ohono ar ein gwasanaethau rheng flaen.”