Mae’r Blaid Lafur am fynd ati ar frys i ddelio ag achosion o gwrth-Semitiaeth o fewn ei rhengoedd “erbyn mis Mai”, yn ôl adroddiadau o gyfarfod gynhaliwyd neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 24).

Daw hyn wedi i gynrychiolwyr y gymuned Iddweig gyhuddo arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, o fethu â gweithredu ar y mater.

Ddydd Mawrth (Ebrill 24) bu’r arweinydd yn cyfarfod ag aelodau Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain (BDBJ) a’r Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig.

Ac yn ystod y cyfarfod hwn, mi wnaeth yr aelodau alw am ragor o eglurder tros gynlluniau’r blaid i fynd i’ afael â’r broblem. Dywedodd Jeremy Corbyn bod y cyfarfod yn un “bositif ac adeiladol”.

“Siom fawr”

“Oedd y [cyfarfod] yn bositif? Oedd,” meddai Jonathan Arkush, Llywydd BDBJ ar raglen Newsnight. “Adeiladol? … Dw i ddim yn siŵr os alla’ i ddweud hynny.

“Unwaith eto, mae ‘na addewidion ond does dim gweithredu. Dyna pam yr oeddem ni’n credu bod y cyfarfod yn wastraff cyfle, a’n siom fawr.”