Mae Arglwydd Ivor Richard – awdur adroddiad a alwodd am ragor o bwerau i Gymru yn 2004 – wedi marw yn 85 oed.
Cafodd ei eni ym mhentref Betws yn Sir Gaerfyrddin, ac fe fu’n Aelod Seneddol Llafur tros etholaeth Barons Court yn Llundain o 1964 i 1974.
Roedd yn Llysgennad Prydeinig i’r Cenhedloedd Unedig o 1974 i 1979, ac yn gomisiynydd Ewropeaidd o 1981 i 1985, cyn ei urddo’n Arglwydd Richard o Rydaman yn 1990.
Ef oedd cadeirydd y comisiwn a fu’n ymchwilio i’r galw am ddatganoli pellach i Gymru, ac mi ddaethom i’r casgliad bod angen rhagor o bwerau yn ‘Adroddiad Richard’ a gyhoeddwyd yn 2004.