Fe fydd dau ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc yn colli eu nawdd ariannol yn llwyr y flwyddyn nesaf, ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Gwynedd heddiw benderfynu torri’r cyllid y maen nhw’n ei dderbyn.
Yn dilyn cyfarfod o’r cabinet heddiw (Mawrth 13), fe benderfynodd aelodau dorri’r grant blynyddol o £20,000 i Glybiau Ffermwyr Ifanc Meirionydd, ynghyd â’r grant o £16,000 i ffederasiwn Eryri.
Er hyn, mae’r cyngor wedi cytuno i ariannu’r ddau ffederasiwn am y naw mis nesaf.
“Ail fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid”
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, maen nhw wedi dod i’r penderfyniad hwn wrth iddyn nhw “ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid” yn y sir.
Maen nhw hefyd yn dweud nad yw’r gwasanaeth fel ag y mae ar hyn o bryd yn cyrraedd anghenion pobol ifanc y sir, a bod angen i’r cyngor wneud arbedion o £270,000.
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Mudiad Ffermwyr Ifanc Meirionydd ac Eryri am ymateb.