Mae twristiaeth i Gymru ar gynnydd yn ôl ffigurau diweddar gan Lywodraeth Cymru – a hynny er gwaetha’r glaw.
Yn ôl ystadegau Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, mae 40% o fusnesau yn dweud eu bod wedi gweld mwy o ymwelwyr eleni o gymharu â haf llynedd.
Dywedodd 39% o fusnesau eu bod wedi derbyn cyfran debyg o ymwelwyr, tra oedd 21% yn nodi cwymp.
Er ymgyrchoedd marchnata Llywodraeth Cymru – er enghraifft ‘Blwyddyn y Chwedlau’ – dywedodd bron chwarter o fusnesau (23%) mai ymgyrchoedd marchnata eu hunain oedd yn gyfrifol am y twf.
Ymysg y busnesau a welodd cwymp mae’n debyg mai’r tywydd yw’r esboniad mwyaf poblogaidd, gyda 30% yn beio’r tywydd am eu hanffawd.
Calonogol iawn
“Mae’n galonogol iawn bod y ffigurau hyn yn dangos bod 2017 yn profi’n flwyddyn lwyddiannus arall i dwristiaeth yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
“Rydym wedi cael dwy flwyddyn lwyddiannus o’r bron ac rydym yn gobeithio cynnal y twf hwnnw … Rwy’n falch iawn bod y diwydiant yn edrych tua gweddill y flwyddyn yn hyderus.”