Richard Wyn Jones (Llun: golwg360)
Mae deall cymhlethdod pobol Cymru “yn allweddol” er mwyn deall pam y pleidleisiodd y wlad o blaid Brexit, yn ôl un academydd.
Fe fu Richard Wyn Jones yn traddodi darlith ar Faes yr Eisteddfod yr wythnos hon gan rannu rhai o’r canfyddiadau o’r dadansoddiad manwl cyntaf o Gymru a Brexit.
Yn siarad â golwg360 dywedodd bod “hunaniaeth genedlaethol” wedi bod yn ffactor bwysig iawn yng Nghymru yn ystod y bleidlais.
“Be oeddwn i’n ffeindio, a beth mae’r ymchwil yn dangos ydi bod hunaniaeth genedlaethol wedi bod yn bwysig iawn o ran y bleidlais yng Nghymru – ond wrth gwrs bod Cymru yn wlad gymhleth iawn. Mae Cymru’n wlad fach gymhleth o ran hunaniaeth genedlaethol.
“Mae ganddon ni bob math o raniadau,” meddai. “Er enghraifft rhaniad ieithyddol ,wrth gwrs, rhwng pobol sy’n siarad Cymraeg ac sydd ddim. Rhaniadau o ran lle cafodd pobol eu geni, tua thraean o’r etholaeth wedi’u geni yn Lloegr. A pob math o batrymau cymhleth -ac yn aml iawn go lleol – o hunaniaeth genedlaethol.”
Y Gymraeg
O’r amryw o ffactorau gwahanol yng Nghymru, mae’n ymddangos yr oedd y gallu i siarad Cymraeg ymysg un o’r ffactorau pennaf.
“Oeddwn yn dangos bod y Gymraeg yn ei hun yn ffactor. Does dim ots pa grŵp hunaniaeth ydych chi, oeddech chi’n fwy tebygol o bleidleisio i aros os oeddech yn siarad Cymraeg yn iaith rugl neu rywfaint o Gymraeg.
“Ymysg y bobol hynny sy’n teimlo’n Gymry yn unig neu sy’n siarad yn rhugl – ac mae’r mwyafrif llethol siaradwyr Cymraeg rhugl yn teimlo’n Gymry’n unig – dim ond 16% ohonyn nhw oedd yn pleidleisio i adael.”
Cymru a’r Alban
Yn ôl Richard Wyn Jones, roedd cenedlaetholwyr Cymru a’r Alban yn pleidleisio yn yr un modd, ond mi wnaeth y gwahaniaeth yn nifer yr unigolion gwladgarol arwain at wahaniaethau rhwng y ddwy wlad.
“Os wyt ti isio cymharu’r Alban a Chymru, oedd pobol sy’n teimlo’n Gymru yn unig wedi pleidleisio’n debyg iawn i bobol sy’n teimlo’n Albanwyr yn unig,” meddai.
“Ond mae pobol sy’n teimlo’n Albanwyr yn unig yn hanner poblogaeth yr Alban – maen nhw’n llai na 30% o bobol Cymru. Mae deall cymhlethdod demograffics Cymru yn allweddol.”