Alun Davies (Llun Golwg 360)
Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru’n cynnig pedwar dewis o ran hyrwyddo’r Gymraeg.
Fe fydd y Gweinidog tros y Gymraeg, Alun Davies, yn cyhoeddi papur gwyn ar yr iaith yn yr Eisteddfod fory ac un o’r cwestiynau llosg fydd dyfodol y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg.
Roedd cytundeb y LLafur gyda Phlaid Cymru adeg cyhoeddi Cyllideb y Llywodraeth wedi sicrhau £2 filiwn ar gyfer y gwaith a oedd yn arfer cael ei wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
- Mae golwg360 yn deall mai sefydlu corff tebyg i’r Bwrdd fydd un opsiwn – mae’n debyg y bydd dewis posib rhwng asiantaeth annibynnol ac un sydd dan adain y Llywodraeth.
- Fe fydd rhoi’r gwaith i Gomisiynydd y Gymraeg yn ddewis arall.
- Y pedwerydd dewis fydd cadw’r gwaith yn llwyr o fewn y Llywodraeth ei hun.
Mae beirniadaeth wedi bod am ddiffyg hyrwyddo ar yr iaith ers i Fwrdd yr Iaith gael ei ddiddymu.