Mae pobol Sir Gâr yn cael eu rhybuddio i gymryd gofal wrth chwilio am gariadon ar-lein, yn dilyn nifer o achosion o ‘sgamiau serch’.
Daw’r rhybudd wedi i dwyllwyr gymryd arnynt eu bod eisiau ffurfio perthnasau â phobol ar lein – a hynny dim ond er mwyn casglu eu gwybodaeth bersonol a gwneud arian o hynny.
Dros y misoedd diwethaf, mae swyddogion tîm safonau masnach y sir wedi dod ar draws nifer o ddioddefwyr y sgamiau yma.
Mae’r mis hwn wedi’i ddynodi yn ‘Fis Ymwybyddiaeth o Sgamiau’, ac mae’r tîm yn cynnal ymgyrch i gynghori’r cyhoedd ynglŷn â sgamiau, ac yn annog pobol i riportio achosion tebyg.
“Amharod i siarad”
“Mae pobol yn amharod i siarad am sgamiau, ac mae hyn yn golygu bod yr awdurdodau yn anymwybodol o nifer fawr ohonynt – os nad yw ein tîm yn ymwybodol o sgamiau, nid oes modd i ni eu hatal,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes.
“Bydd gwybod sut i adnabod sgâm yn eich helpu i’ch amddiffyn eich hun ac eraill rhag cael eich twyllo. Er mwyn i ni gefnogi ac addysgu pobol, mae angen i ni gael gwybod am sgamiau parhaus megis y sgamiau serch diweddar.
“Rwy’n eich annog i wneud eich rhan a gweithredu ar sgâm.”