Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo neilltuo £330m ar gyfer addysg yng Nghymru yn y cyfnod seneddol nesaf yn San Steffan.
Mae’r addewid yn rhan o fuddsoddiad o £7bn yng ngwledydd Prydain, ac mae’n arwydd o “ymrwymiad” i addysg, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams.
“Diwygio addysg yng Nghymru yw ein gorchwyl cenedlaethol,” meddai mewn datganiad.
“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n canolbwyntio ar godi safonau mewn ysgolion, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol.”
Ychwanegodd y byddai buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn golygu bod disgyblion yng Nghymru’n “cael eu cymryd yn ganiataol” ac yn “torri gwasanaethau cyhoeddus, megis ysgolion, hyd yr asgwrn”.