Andy Street
Y Ceidwadwr, Andy Street, sydd wedi ennill y ras i fod yn Faer cyntaf y West Midlands – ardal sydd fel arfer yn pleidleisio tros y blaid Lafur.
Fe bwysleisiodd yn ystod ei ymgyrch bod angen i’r ardal ganolbwyntio ar wneud llwyddiant o broses Brexit.
Fe lwyddodd i ennill mwyafrif anferth tros ymgeisydd Llafur yn Solihull a Dudley, Sion Simon, ac fe sicrhaodd hefyd yr ail bleidlais gan ganran uchel o’r boblogaeth.
Yn y swydd, fe fydd Andy Street, sy’n un o gyn-fosus cwmni siopau John Lewis, yn gyfrifol am gyllideb sy’n werth £8bn.