Andy Burnham (Llun: PA)
Andy Burnham o’r blaid Lafur sydd wedi’i ethol yn Faer cyntaf ardal Manceinion Fwyaf.

Fe lwyddodd y cyn-aelod cabinet yn San Steffan ac Aelod Seneddol Leigh i ennill 60% o’r bleidlais, gyda 359,352 yn bwrw croes drosto. Roedd ymhell ar y blaen i ymgeisydd y Ceidwadwyr, Sean Anstee a oedd yn yr ail safle gyda 128,752 o bleidleisiau.

Mae hon yn swydd newydd, a’r bwriad ydi hybu datganoli o fewn Loegr, gan gymryd rhai o’r pwerau o San Steffan allan i ddinasoedd mawr ac ardaloedd y tu allan i Lundain. Fe fydd Andy Burnham yn ennill cyflog o £110,000 y flwyddyn.

Ymhlith ei gyfrifoldebau y bydd y gwasanaeth tân, yr heddlu, codi tai a thrafnidiaeth gyhoeddus, ynghyd â dylanwad dros iechyd a gofal cymdeithasol.

Fe safodd Andy Burnham yn erbyn Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y blaid Lafur, a chael ei drechu.