Dyma’r canlyniadau llawn
Abertawe
Rhyddhad mawr i Lafur, gan ddal gafael mewn grym a dim ond cynnydd bach i’r Ceidwadwyr, yn benna’ ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol.
Llafur 48 (-1)
Ceidwadwyr 8 (+4)
Dem Rhydd 7 (-5)
Arall 9 (+2)
Blaenau Gwent
Roedd yr AC lleol Alun Davies, yn siomedig wrth i Lafur golli rheolaeth. Yr Annibynwyr sydd bellach yn rheoli a’r arweinydd Llafur, Brendan Toomey, wedi colli ei sedd.
Annibynnwyr 26 (+14)
Llafur 12 (-17)
Plaid Cymru 1 (+1)
(Heb gynnwys ward Blaina eleni)
Bro Morgannwg
Buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr fan hyn, digon bron i reoli’r Cyngor.
Ceidwadwyr 23 (+12)
Llafur 14 (-7)
Annibynnol 6 (-1)
Plaid Cymru 4 (-3)
UKIP 0 (-1)
Caerdydd
Llafur yn dal gafael ar y brifddinas, ond y Ceidwadwyr yn gwneud cynnydd sylweddol ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.
Llafur 40 (+1)
Ceidwadwyr 20 (+13)
Dem Rhydd 11 (-5)
Plaid Cymru 3 (-2)
Annibynnol 1 (-1)
Caerffili
Canlyniad calonogol i Gaerffili, ond yn siomedig i Blaid Cymru, mae’n siwr nad oedden nhw’n disgwyl colli seddi fan hyn
Llafur 50
Plaid Cymru 18 (-2)
Annibynnol 5 (+2)
Casnewydd
Dyma ardal lle’r oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl gwneud yn dda, gyda llygad ar y ddwy sedd yn yr Etholiad Cyffredinol… ond fe lwyddodd Llafur i ddal ei thir yn weddol.
Llafur 31 (-6)
Ceidwadwyr 12 (+2)
Annibynnol 5 (+3)
Dem Rhydd 2 (+1)
Castell Nedd Port Talbot
Dyma berfformiad cryfaf Plaid Cymru cyn y cyfri’ yn eu cadarnleoedd, gan ddechrau wneud marc yn ardal Port Talbot. Ond maen nhw’n dal i fod yn wannach nag ar ddechrau’r Milenniwm.
Llafur 45 (-7)
Plaid Cymru 15 (+7)
Annibynnol 5
Dem Rhydd 1 (+1)
Ceredigion
Mae’r arweinydd, Elen ap Gwynn, eisoes wedi dweud y bydd rhaid i Blaid Cymru gydweithio er mwyn parhau i arwain y cyngor.
Plaid Cymru 18 (-1)
Annibynnol 15 (+1)
Dem Rhydd 7
Llafur 1
Gwag 1
Conwy
Dim un plaid yn llwyddo i gipio grym
Annibynnol 20
Ceidwadwyr 16 (-3)
Plaid Cymru 10 (+2)
Llafur 8 (+2)
Dem Rhydd 4
Arall 1
Gwynedd
Plaid Cymru yn dal gafael, ond y nifer o ymgeiswyr Annibynnol yn cynyddu’n sylweddol.
Plaid Cymru 40 (+1)
Annibynnol 32 (+11)
Llais Gwynedd 6 (-1)
Llafur 1
Dem Rhydd 1
Merthyr Tudful
Mae’r canlyniad yn y fantol, gyda thair sedd i’w penderfynu ymhen y mis, ar ôl marwolaeth un ymgeisydd. Ond mae Llafur wedi colli’n drwm ac mewn peryg o golli rheolaeth.
Llafur 14 (-9)
Annibynnol 16 (+7)
UKIP 0 (-1)
Pen-y-bont ar Ogwr
Colled drom i Lafur, yn ardal Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Cynnydd anferth i’r Ceidwadwyr, efallai o ganlyniad i ymweliad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.
Llafur 26 (-13)
Ceidwadwyr 11 (+10)
Annibynnol 13 (+3)
Plaid Cymru 3 (+2)
Dem Rhydd 1 (-2)
Powys
Neb â grym llawn ym Mhowys, ac mae’n debyg y bydd yn rhaid cael clymblaid i reoli.
Annibynnol 30 (-6)
Ceidwadwyr 19 (+9)
Dem Rhydd 13 (+2)
Llafur 7
Plaid Cymru 2 (+2)
Y Blaid Werdd 1 (+1)
1 sedd wag
Rhondda Cynon Taf
Llafur yn dal gafael ar y Cyngor ond wedi colli pleidleisiau i Blaid Cymru
Llafur: 47 (-13)
Plaid Cymru: 18 (+8)
Annibynnol: 4
Ceidwadwyr: 4 (-1)
Dem Rhydd: 1
Cynon Valley: 1
Sir Benfro
Cynnydd i’r Ceidwadwyr ond a fydd yn ddigon i sicrhau clymblaid â’r Annibynwyr?
Annibynnol 34 (-14)
Ceidwadwyr 12 (+9)
Llafur 7 (+2)
Plaid Cymru 6 (+2)
Dem Rhydd 1 (+1)
Sir Ddinbych
Canlyniad da arall i’r Ceidwadwyr, ond fydd o ddim yn ddigon i gipio rheolaeth lawn o’r Cyngor.
Ceidwadwyr 16 (+7)
Llafur 13 (-5)
Plaid Cymru 9 (+2)
Annibynnol 8 (-4)
Dem Rhydd 1
Sir Fynwy
Y Ceidwadwyr yn cryfhau digon i allu rheoli heb gymorth y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ceidwadwyr 26 (+7)
Llafur 10 (-2)
Annibynnol 5 (-5)
Dem Rhydd 3
Sir y Fflint
Dyma ardal lle mae Llafur yn fregus yn yr Etholiad Cyffredinol, ond roedd y canlyniad yn galonogol iawn iddyn nhw a’r Ceidwadwyr yn colli tir.
Llafur 34 (+3)
Annibynnol 23 (+4)
Ceidwadwyr 6 (-2)
Dem Rhydd 5 (-2)
Eraill 2 (-2)
Plaid Cymru 0 (-1)
Sir Gaerfyrddin
Plaid Cymru yn llwyddo i gipio tir ond heb gael digon i rheoli’r Cyngor yn llawn
Plaid Cymru 36 (+8)
Llafur 22 (-1)
Annibynnol 16 (-7)
Torfaen
Yn wahanol i’w cymdogion ym Mlaenau Gwent, fe wnaeth Llafur yn dda a Phlaid Cymru’n colli tir.
Llafur 29 (-1)
Annibynnol 11 (+3)
Ceidwadwyr 4
Plaid Cymru 0 (-2)
Wrecsam
Yr Annibynwyr bellach yw’r garfan fwya’, gan ddisodli Llafur, a gafodd golledion trwm. Roedd enillion bach i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr.
Annibynnol 27 (+8)
Llafur 11 (-12)
Ceidwadwyr 9 (+4)
Plaid Cymru 3 (+2)
Dem Rhydd 2 (-2)
Ynys Môn
Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf ar y cyngor bellach, ond heb ddigon i gipio rheolaeth lawn.
Plaid Cymru: 14 (+2)
Annibynnol: 13 (-3)
Llafur: 2
Dem Rhydd: 1