Cynghorydd Jeff Smith (Llun o'i gyfrif Twitter)
Mae Jeff Alfred Smith wedi bod yn un o gynghorwyr tref Aberystwyth am bum mlynedd, ac mae’n cyfrif ymhlith ei lwyddiannau gwella’r goleuadau Nadolig, gwella’r meysydd chwarae, helpu’r amgylchedd “ac ati”.

Ond os y caiff ei dw i’n mynd ar y cyngor sir hefyd fe alla’ i wneud mwy o bethau i wella’r dref.

“Dwi wedi bod yn byw yn Aberystwyth ers deng mlynedd … dwi’n dod o Rochester, Swydd Caint yn wreiddiol,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnes i ddod i Gymru ac mi o’n i eisiau dysgu’r iaith. Y prif beth wnaeth fy helpu i ddysgu oedd cymdeithasu gyda ffirnidau gan fwyaf. Fe ges i wersi hefyd, ond yr ochr gymdeithasol oedd y peth mwyaf.”

Mae Jeff Smith wedi bod, ac yn parhau i fod, yn flaenllaw iawn yn yr ymgyrch i ailagor Neuadd Pantycelyn yn llety i fyfyrwyr Cymraeg yn y dref.

“Mae’r ymgych yn parhau,” meddai. “Mae’r sefyllfa ariannol yn dal i fod yn destun ymchwil gan reolwyr y brifysgol, a nes bod yr arian yn eisiau a’r gwaith yn dechrau mae’r ymgyrch yn parhau.”

“Mae’r profiadau yn y coleg wedi rhoi profiad mawr o ymgyrchu a sut i ddadlau, o gynnal cyfarfodydd, o roi fy mhwyntiau drosodd. Dw i wedi datblygu’r sgiliau yna trwy ymgyrchu dros yr iaith a Phantycelyn a phethau felly a thrwy fod yn gynhorydd tref.

“Dw i hefyd yn cadeirio’r pwyllgor cynllunio a phwyllgor cyllid yn y cyngor tref sydd wedi rhoi’r cyfleoeon o ymarfer i mi.”

Y gwrthwynebydd

Ceredig Davies o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n cynrychioli sedd Canol Aberystwyth ar hyn o bryd. Fe enillodd fwyafrif mawr y tro diwethaf, ac mae pedwar yn y ras eleni.

“Fi a Ceredig yw’r unig ymgeisywyr sydd wedi bod yn ymgyrchu o gwmpas y dref,” meddai Jeff Smith, “ac mae yna bosteri ohonof i ar hyd y dref.”