Bethan Jenkins AC
Mae un o Aelodau Cynulliad ieuenga’ Plaid Cymru, Bethan Jenkins, wedi tynnu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol at brinder menywod ar y rhestr o ymgeiswyr sydd wedi’u dewis ar gyfer etholiad Mehefin 8.
Fe gynhaliwyd sawl cyfarfod hystings yn y canolbarth ac yn ne Cymru neithiwr, ac mae disgwyl i ymgeisydd Môn, ymhlith eraill, gael ei ddewis heno (nos Fercher).
Ond pwysleisiodd Bethan Jenkins wrth golwg360 mai “sylw cychwynnol” oedd hwnnw ganddi ar wefan Facebook, yn rhan o’r llif o enwau oedd yn cael eu cyhoeddi nos Fawrth, ac nad yw hi wedi gweld y rhestr lawn o ymgeiswyr eto.
Pedair gwraig
Pedair gwraig sydd wedi’u dewis yn ymgeiswyr hyd yn hyn, allan o 15 o etholaethau sydd wedi cynnal hystings – Amy Kitcher (Merthyr Tudful), Kate Heneghan (Brycheiniog a Maesyfed), Abi Thomas (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) a Fflur Elin (Pontypridd).
Dyma’r rhestr fel ag y mae hi ar hyn o bryd:
Wyn E Jones – Aberconwy
Rhydian Ellis Fitter – Gorllewin Abertawe
Kate Heneghan – Brycheiniog a Maesyfed
Mark Cooper – Canol Caerdydd
Steffan Webb – Gogledd Caerdydd
Michael Deem – Gorllewin Caerdydd
Abi Thomas – Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Lindsay Whittle – Caerffili
Daniel Gwydion Williams – Castell Nedd
Ben Lake – Ceredigion
Harri Roberts – Gŵyr
Darren Jones – Islwyn
Aled Morgan Hughes – Maldwyn
Amy Kitcher – Merthyr Tudful
Fflur Elin – Pontypridd