Jeremy Corbyn yng Nghaerdydd heddiw.
Daeth rhwng 2,000 a 3,000 o bobol i glywed Jeremy Corbyn yn siarad mewn rali yng ngogledd Caerdydd heddiw, yn ôl yr heddlu.

Ond doedd ddim llawer yn gallu clywed arweinydd y Blaid Lafur yn areithio am nad oedd y system sain yn ddigon da.

Wrth siarad â golwg360 wedi ei araith, dywedodd Jeremy Corbyn fod “y dringo wedi dechrau” wrth ymateb i sylw Carwyn Jones ddoe bod gan y blaid “fynydd i’w ddringo” cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.

“Fe ddechreuon ni ddringo heddiw, rydym yn cael y neges allan a fory byddwn ni allan ar y strydoedd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Lloegr a’r Alban hefyd,” meddai Jeremy Corbyn.

“Mae gennym ni neges a phlaid sy’n llawn brwdfrydedd i gyflwyno’r neges honno. Mae miloedd wedi ymuno â’r blaid yn ystod y tri diwrnod diwethaf, ar ben yr hanner miliwn o aelodau sydd eisoes gennym.

“Mae yna reswm pam mai ni yw’r blaid wleidyddol fwyaf yn Ewrop – y rheswm yw bod pobol am gael rhywbeth gwahanol ym mhob rhan o Brydain.”

Buddsoddi “yn y wlad i gyd”

Wrth gael ei holi am sut i ddenu pleidleiswyr traddodiadol Llafur yn ôl at y blaid, dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’n “dod â swyddi, gobaith a chyfleoedd i’r wlad i gyd”.

“Mae tlodi yn Llundain, mae tlodi yng Nghymoedd De Cymru, ac mae tlodi ym mhentrefi Lloegr,” ychwanegodd.

“Yr ateb yw [cyflwyno] isafswm cyflog sy’n golygu rhywbeth fel £10 yr awr, system budd-daliadau sydd ddim yn ymosod ar y sawl sydd ag anableddau, a buddsoddi a thyfu’r economi at y dyfodol.

“Mae gormod o lefydd wedi cael ychydig iawn neu ddim buddsoddiad o gwbl ers diwedd y diwydiant glo. Ddim yn unig yng Nghymru ond yn Ne Swydd Efrog a’r Alban – byddwn ni’n newid hynny.”

Addawodd Jeremy Corbyn, pe bai’n llwyddo i ffurfio Llywodraeth ar 8 Mehefin y byddai’n “ariannu Llywodraeth Cymru yn iawn ac yn gweithio gyda hi ar ei rhaglen o fuddsoddi cyfalafol a chreu swyddi ledled Cymru.”

Trafod datganoli â Carwyn

O ran datganoli mwy o bwerau i Gymru, mae Jeremy Corbyn yn dweud ei fod yn trafod y mater yn aml gyda Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

“Byddwn ni’n trafod hynny gyda Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae gennym ni awydd am ddatganoli yn Lloegr, rydym am siarad am ba bwerau sydd eu hangen a’u heisiau yng Nghymru.

“Byddwn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Does yna ddim problem, dw i’n siarad â Carwyn [Jones] yn aml iawn am y materion hyn.”