Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae disgwyl i Arweinydd y Blaid Lafur rhybuddio nid yw buddugoliaeth y Blaid Geidwadol yn etholiad cyffredinol Mehefin 8 yn “anochel,” wrth iddo draddodi araith gyntaf yr ymgyrch etholiadol.
Ac er bod polau piniwn yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn bell o flaen y blaid Lafur, mae Jeremy Corbyn yn ffyddiog bod modd newid “trywydd yr etholiad” trwy flaenoriaethu anghenion y “mwyafrif.”
Bydd Jeremy Corbyn hefyd yn pwysleisio bwriad y Blaid Lafur i wrthwynebu’r “sustem sydd wedi’i rigio” sydd yn ffafrio’r cyfoethog, ac mae wedi mynnu ni fydd yn “dilyn rheolau’r” sefydliad.
“Chwarae’r gêm”
“Mae llawer yn y cyfryngau ac o’r sefydliad yn dweud bod canlyniad yr etholiad yma eisoes yn glir ac yn anochel,” mae disgwyl iddo ddweud.
“Maen nhw’n dweud nad ydw i’n filyn y rheolau – eu rheolau nhw. Maen nhw’n dweud ni allwn ennill oherwydd dydyn ni ddim yn chwarae eu gêm.”
“Maen nhw’n iawn, dydw i ddim. Ac ni fydd Llywodraeth Lafur os cawn ein hethol ar Fehefin 8, yn dilyn eu rheolau nhw.”
Prynhawn ddoe, gwnaeth aelodau seneddol gefnogi’r galw i gynnal etholiad cyffredinol cynnar, gyda 522 o aelodau yn pleidleisio o blaid.