Dadl deledu ar gyfer arweinwyr pleidiau'r Cynulliad, 2016 (Llun: BBC Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn galw am roi cadair wag ar lwyfan pe bai Theresa May yn gwrthod cymryd rhan mewn dadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol.

Daeth cyhoeddiad gan Brif Weinidog Prydain ddoe y bydd etholiad cyffredinol brys yn cael ei gynnal ar Fehefin 8.

Ond mae hi’n mynnu na fydd arweinwyr y prif bleidiau’n mynd ben-ben â’i gilydd fel y gwnaethon nhw adeg yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Dywedodd fod yn well ganddi gynnal sgyrsiau ar stepen y drws.

‘Ofn’

Yn dilyn ei sylwadau, dywedodd Leanne Wood fod Theresa May yn “ofni” cymryd rhan yn y dadleuon.

Wrth iddi ddweud y dylid rhoi cadair wag ar lwyfan, ychwanegodd Leanne Wood: “Dw i’n hapus i gael dadl â hi unrhyw bryd, yn unrhyw le, ond mae hi’n edrych fel pe bai hi’n ofni cael ei chraffu.”

Dywedodd Leanne Wood fod perygl y gallai Cymru fod yn “wlad a gafodd ei hanghofio”.

“Rydym yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o gael dadleuon teledu lle gallwn ni brofi fod mwy i’r DU na’r hyn sy’n digwydd y tu fewn i swigen San Steffan.

“Mae’n hanfodol bod y dadleuon yn digwydd gyda neu heb Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, a bod pob gwlad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei chynrychioli.”