Kim Howells ym Mhrifysgol Bangor nos Iau
Mae cyn-weinidog yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown yn dweud nad yw’n deall pam fod y Blaid Lafur wedi rhoi cymaint o bwys ar ddatganoli i Gymru cyn etholiad cyffredinol 1997.
Fe ddaw sylwadau Kim Howells ugain mlynedd wedi’r ail Refferendwm, wrth gymryd rhan mewn sesiwn gwestiwn ac ateb ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Yn y refferendwm hwnnw ar Fedi 18, 1997, fe bleidleisiodd Cymru 50.3% i 49.7% o blaid datganoli grym o San Steffan i Gaerdydd.
“Mi bledleisiais i dros ddatganoli yn 1979,” meddai cyn-AS Pontypridd, “ond erbyn 1997, ro’n i wedi dod yn wrthwynebus iawn i’r syniad tra’r oedd y Blaid Lafur o blaid datganoli.
“Roedd taith Ron Davies, wrth gwrs, yn hollol i’r gwrthwyneb. Roedd e wedi bod yn arwain y ddadl yn erbyn datganoli yn 1979.
“Ac mae’n rhaid i mi ddweud, roedd hi’n ymddangos i mi, wrth siarad â phobol yn ardal Pontypridd a fy etholaeth, nad oedd datganoli yn fater pwysig iawn iddyn nhw yn 1997. Doedd e ddim ar dop eu rhestr blaenoriaethau.
“Ond John Smith (arweinydd Llafur rhwng 1992 ac 1994) oedd yn allweddol wrth gael y mater yn ôl ar yr agenda, a fe oedd yr un berswadiodd Neil Kinnock i ddechrau cefnogi’r syniad, ac yntau wedi bod mor wrthwynebus. Felly, roedd newidiadau mawr yn digwydd o fewn y blaid.”
Ennill yn 1997
Pan enillodd Llafur Etholiad Cyffredinol 1997, fe ddaeth datganoli yn nod go iawn i lywodraeth Tony Blair, yn hytrach na bod yn rhywbeth ar faniffesto, ac fe deimlodd Kim Howells fod y mater yn cael “ei yrru” gan yr arweinyddiaeth.
Dyna pryd y cafodd ei dynnu oddi wrth y gwaith o gyflwyno Deddf Ffioedd Dysgu, i fod yn rhan o Bwyllgor Setliad Cymru a’r Alban.
“Fe ffeindiais i fy hun yn y Pwyllgor – yr unig un oedd ddim yn y Cabinet – ac ym mhob sesiwn, roedd gwaed ar y waliau,” meddai. “Wrth gwrs, roedd y cyfarfodydd hyn yn trafod arian, a gwario arian, ac felly roedd Gordon Brown, hyd yn oed fel Aelod Seneddol o’r Alban, yn erbyn gwario gormod o arian ar ddatganoli.
“Derry Irvine oedd yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd, a fe oedd yn cadeirio cyfarfodydd Datganoli. Ac roedd pethau’n mynd yn flêr yn aml… Dw i’n cofio unwaith fod Ron Davies, a oedd erbyn hyn o blaid datganoli, yn gwrthwynebu sefydlu swyddfa’r Archwiliwr Cyffredinol yng Nghymru.
“Dyma’r swyddfa oedd yn gwneud yn siwr fod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n deg ac mewn ffordd dryloyw – mater pwysig iawn – ond dadl Ron Davies Dadl oedd mai cenedl fach yw’r Cymry, a’n bod ni i gyd yn ymddiried yn ein gilydd!
“Felly, dyma Derry Irvine yn troi ata’ i ac yn gofyn beth o’n i’n feddwl. Ac fe ddwedais i mai Cymru, i’r gogledd orllewin o Sisili, oedd yr ardal fwya’ llwgwr allech chi ei chael.
“Fe gafodd yr Arglwydd Irvine hefyd ei drafferthion ar ôl gwario arian y trethdalwyr ar bapur wal drud iawn.”
Hyder Tony Blair (eto)
Mae Kim Howells yn gwenu wrth gofio Tony Blair yn ei dynnu i’r naill ochr yng nghanol y trafodaethau cyn refferenwm 1997 a’i holi ynglyn â sut oedd pethau’n mynd.
“Roedd e eisie gwybod os oedden ni’n mynd i gael y maen i’r wal,” meddai Kim Howells. “Fe atebais i fy mod i’n weddol ffyddiog y byddai’r garfan ‘Ie’ yn ennill… a dyna pryd ofynnodd e, ‘Oes angen i mi ddod i Gymru er mwyn gwneud yn siwr ein bod ni’n ennill?’
“Roedd ganddo lot o ffydd yn ei ddylanwad tros bobol!”