Mae’n debygol y bydd angen sêl bendith Senedd yr Alban i basio Mesur Diddymu Mawr [Great Repeal Bill] Llywodraeth Prydain, yn ôl Ysgrifennydd yr Alban.
Dywedodd David Mundell ei fod yn “gweithio ar y sail” y bydd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan Holyrood o achos yr effaith fydd y bil yn ei gael ar bwerau’r wlad.
Byddai methu cael cefnogaeth Aelodau Seneddol yr Alban yn arwain at “oblygiadau difrifol iawn”, meddai.
Daeth ei sylwadau yn dilyn cyfarfod â Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell, lle gafodd y bil ei drafod.
Pryderon o golli pwerau
Byddai’r ddeddfwriaeth yn golygu bod deddfau’r Undeb Ewropeaidd sy’n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn dod yn rhan o’r gyfraith yng ngwledydd Prydain.
Mae pryderon y gallai hyn olygu y byddai gwledydd datganoledig golli rhywfaint o’u pwerau. Dydi Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ddim wedi gwneud sylw ar y mater eto.
Ond yn ôl David Mundell, gallai’r Alban gael mwy o bwerau, nid llai, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
“O ystyried y byddai’r Bil Diddymu Mawr yn effeithio ar gyfrifoldebau’r Senedd hon ac ar gyfrifoldebau gweinidogion yr Alban, dw i’n meddwl ei fod yn deg rhagweld y bydd yn destun proses cydsyniad deddfwriaethol,” meddai.
“Byddai ddim cytuno i’r Bil Diddymu Mawr yn golygu goblygiadau difrifol, ond fy ffocws i fydd gweithio gyda’r Senedd fan hyn, gweithio gyda chymunedau, i gael y ddadl honno.”
Ychwanegodd hefyd ei fod yn “ymrwymedig i ddelifro pwerau ychwanegol i’r Senedd hon wrth i bwerau ddychwelyd o Frwsel.”
Y pwerau “mwyaf amlwg” yw’r rhai ynglŷn â chyfiawnder troseddol, meddai, gan ddweud “nad oes sail” dros pam fyddai’r pwerau hynny ddim yn dod i’r Alban.
“Cyfarfod dibwynt”
Er bod David Mundell wedi disgrifio’r cyfarfod fel un “adeiladol a hwylio”, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban ei fod wedi bod yn “ddibwynt”.
Does dim manylion wedi cael eu rhoi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar roi pwerau i’r Holyrood, meddai.