Mae Arlywydd presennol yr Unol Daleithiau wedi traddodi ei araith ymadawol yn Chicago.

Roedd Barack Obama yn emosiynol wrth drafod ei drallod a’i lwyddiannau yn ystod ei wyth blynedd fel Arlywydd.

Wrth ddadlau bod ei ffydd yn America wedi ei atgyfnerthu, dywedodd ei fod yn gorffen ei gyfnod yn y swydd wedi ei ysbrydoli gan “gallu diderfyn” y wlad i newid ei wedd gan ddatgan: “Ni biau’r dyfodol.”

Cyfeiriodd at “anghydraddoldeb clir” oedd yn niweidio democratiaeth America a rhybuddiodd bod anghenion gormod o deuluoedd canol dinasoedd a chefn gwlad yn cael eu hanwybyddu.

Areithiodd yn rymus ar y dechrau ond trodd yn ddagreuol erbyn y diwedd yn ystod yr araith wnaeth bara am ychydig llai nag awr.

Wrth adlewyrchu ar natur etholiad arlywyddol diweddar yr Unol Daleithiau dywedodd Barack Obama fyddai potensial y wlad “ond yn cael ei gyflawni os ydyn ni i gyd, gan ddiystyru cysylltiadau pleidiol yn adfer ymdeimlad o bwrpas cyffredin sydd wir angen arnom nawr.”

Y darpar-Arlywydd

Gyda’r darpar Arlywydd Donald Trump, yn camu i’r swydd ymhen deng niwrnod, dechreuodd y dorf fwian pan gyfeiriodd Barack Obama at y newid yn y drefn.

Ond rhyw sylw didaro cafodd ei gyfeirio at olynydd yr Arlywydd, gyda Barack Obama yn addo byddai ei weinyddiaeth yn sicrhau “trawsnewidiad llyfn”.

Er hyn ymosododd weledigaeth Donald Trump am America gan rybuddio ynglŷn â bygythiad “newyddion ffug” i ddemocratiaeth a gan gyfleu pryder tuag at wleidyddion sydd yn cwestiynu cynhesu byd eang.

Gwnaeth Barack Obama hefyd dalu teyrnged i aberth ei wraig a’i ferched yn ystod yr araith er roedd ei ferch ifancaf, Sasha Obama, yn absennol yn ystod yr araith.