Theresa May
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn paratoi araith ar Brexit gyda’r bwriad o glirio’r niwl ar ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson a’r Ysgrifennydd ar Brexit, David Davis, yn cyfrannu at gynnwys yr araith a fydd disgwyl ei chlywed yn ddiweddarach ym mis Ionawr.

Mae’n debyg y bydd y Prif Weinidog yn dweud y bydd Prydain yn gadael y farchnad sengl os na fydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud consesiynau ar y polisi rhyddid i symud, ond dydy Downing St heb gadarnhau hyn.

Daw’r newyddion yn dilyn diswyddiad Syr Ivan Rogers fel llysgennad yn yr Undeb Ewropeaidd gan gyhuddo’r Llywodraeth o fod â diffyg strategaeth cyn dechrau’r trafodaethau ar Brexit.

Penodi llysgennad newydd

Syr Tim Barrow, cyn-lysgennad i Rwsia, sy’n cael ei ddisgrifio fel “trafodwr caled”, fydd yn dod yn lle Ivor Rogers i helpu’r Llywodraeth i geisio llwyddo wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r penodiad wedi cael ei groesawu gan Lafur ond dywedodd UKIP y dylai’r rôl wedi mynd at “Brexitiwr ymrwymedig, tra bod Tim Barrow yn dweud ei bod yn “fraint” cael ei benodi i’r swydd.

Mae Llafur bellach wedi galw am amserlen a fydd yn amlinellu pryd fydd cynlluniau Brexit y Llywodraeth yn cael eu cyhoeddi.