Arlene Foster, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon (Llun: PA)
Mae arweinydd Sinn Fein, Martin McGuinness, wedi galw ar i Brif Weinidog Gogledd Iwerddon i symud o’r neilltu er mwyn osgoi mwy o sgandal ynghylch cynllun gwresogi.

Yn ei neges Blwyddyn Newydd, mae’n dweud y dylai’r Prif Weinidog a’i phlaid, y DUP, dderbyn bod yna alw cyffredinol am ymchwiliad i’r cynllun sy’n cael ei nabod gan y llythrennau RHI.

“Does yna ddim amheuaeth chwaith,” meddai, “ein bod yn wynebu creisis gwleidyddol yn y Gogledd wrth i hyder y cyhoedd yn ein sefydliadau gwleiyddol gael ei danseilio’n sylweddol.

“Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’n rhaid i’r DUP a’i arweinydd, Arlene Foster, dderbyn bod yna awydd llethol yn y gymdeithas i ddelio gyda’r mater hwn, ac i Arlene Foster gamu o’r neilltu tra bod adroddiad yn cael ei lunio.”

Fe ddaw galwad ddiweddara’ Martin McGuinness yn dilyn cyhoeddi llythyr a anfonodd Arlene Foster at fancwyr ym mis Ionawr 2013, pan oedd hi’n Weinidog yr Economi.