Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae cefnogwyr Jeremy Corbyn wedi taro’n ôl at Faer Llundain, Sadiq Khan, wedi iddo annog aelodau’r Blaid Lafur i droi cefn ar eu harweinydd a chefnogi Owen Smith.

Mewn ymosodiad reit gïaidd ar Mr Corbyn, roedd Mr Khan wedi dweud fod yr arweinydd wedi methu ennill ymddiriedaeth etholwyr, a’i fod yn “annhebygol iawn” o sicrhau buddugoliaeth i Lafur yn yr etholiad nesa’ pe bai’n dal mewn grym.

Ond mae llefarydd ar ran Jeremy Corbyn wedi dweud fod Sadiq Khan wedi ennill ei ymgyrch i fod yn Faer Llundain gyda chefnogaeth nifer fawr o’r aelodau newydd oedd wedi cael eu hysbrydoli i ymaelodi â’r blaid dan arweinyddiaeth  Corbyn.

Mae nifer o aelodau o undebau llafur wedi mynegi eu siom yn Sadiq Khan wedi ei sylwadau am Jeremy Corbyn, ac maen nhw wedi rhybuddio y byddai aelodau undeb hefyd yn “siomedig” yn ei deyrngarwch.