Bydd hyd at £1.5bn yn cael ei fuddsoddi er mwyn gwella cysylltiadau rheilffyrdd yng Nghymru, medd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiad yr Arglwydd Hendy ynghylch cysylltedd yn y Deyrnas Unedig.

Bwriad yr adroddiad yw edrych ar ffyrdd o wella ansawdd bywyd a chyfleoedd economaidd trwy gryfhau’r rhwydwaith trafnidiaeth.

Yn dilyn yr adroddiad, bu i’r llywodraeth gadarnhau gwerth biliynau o brosiectau fydd yn gwella cysylltedd ledled y Deyrnas Unedig.

Roedd hyn yn cynnwys cadarnhad o £1bn o fuddsoddiad i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.

Byddai’r prosiect yn golygu gwelliannau ym mhrydlondeb y gwasanaeth, ac yn galluogi teithio o rai rhannau o ogledd Cymru i Fanceinion mewn cyn lleied ag awr.

Yn ogystal, mae £1.75bn o fuddsoddiad wedi’i gyhoeddi er mwyn gwella gwasanaeth rheilffordd canolbarth Lloegr, fydd yn fanteisiol ar gyfer y rheiny sy’n teithio rhwng Caerdydd a Birmingham.

Mae £700,000 wedi’i neilltuo er mwyn i Drafnidiaeth Cymru gynnal ymchwiliad i welliannau posib i orsafoedd Shotton a Chaer – rhywbeth arall fyddai o fantais i deithwyr yng ngogledd Cymru.

Aros dwy flynedd am ymateb

Dywed David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod buddsoddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn seilwaith trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cyflymu amseroedd teithio.

“Yn dilyn adolygiad Yr Hendy, rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau sylweddol pellach, gan arwain at gymunedau sydd wedi’u cysylltu’n well a mwy o gyfleoedd i bobol ledled y wlad,” meddai.

“Mae’r cynllun £1bn i drydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru, gwerth £50m i Crossrail Caerdydd, £141m ar gyfer Cledrau’r Cymoedd ac £11m ar gyfer uwchraddio ffordd yr A4119, yn enghreifftiau o rai o’r gwelliannau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu cyflawni ar gyfer seilwaith ledled Cymru.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r Adolygiad Cysylltedd Undeb.

“O ystyried ei bod wedi cymryd dros ddwy flynedd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb i’w hadroddiad eu hunain, ni fyddwn yn rhuthro i ddod i gasgliadau,” meddai.