Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cyfarfod â dirprwyaeth o Gyngor Materion Hakka, ynghyd â dau athro prifysgol o Taiwan, i drafod polisïau i amddiffyn ieithoedd lleiafrifol ac i ddylanwadu ar lywodraeth.

Cafodd Cyngor Materion Hakka ei sefydlu yn 2001 fel asiantaeth gan Lywodraeth Taiwan, gyda’r nod o adfywio iaith a diwylliant Hakka ar yr ynys.

Roedd yn debyg i raddau i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Mae gan dafodiaith Hakka Taiwaneg oddeutu tair miliwn o siaradwyr ar yr ynys, ac mae tafodieithoedd eraill hefyd ar dir mawr Tseina, Malaysia, Gwlad Thai a Hong Kong.

Dangosodd y ddirprwyaeth ddiddordeb yn hanes Cymru a’r Gymraeg, yr ymdrechion i’w hamddiffyn a’i hadfer drwy bolisi cyhoeddus, ac ymgyrchoedd hanesyddol a chyfredol Cymdeithas yr Iaith.

Cafodd y Gymdeithas faner Cyngor Materion Hakka, sgarff wedi’i liwio gyda llifyn glas o’r ynys, a bocs o dê Hakka fel rhoddion ar ddiwedd y cyfarfod.

Iaith a thafodiaith yn Taiwan

Grŵp o ieithoedd yw Hakka Taiwaneg, sy’n gyfuniad o nifer o dafodieithoedd yn Taiwan.

Mae pum prif dafodiaith yn perthyn i’r iaith, sef Sixian, Hailu, Dabu, Raoping a Zhao’an, a’r rhai mwyaf cyffredin yw Sixian a Hailu.

Daw Sixian, sydd â chwe chywair i gyd, o Meizhou yn Guangdong, a chaiff ei siarad yn bennaf yn Miaoli, Pingtung a Kaohsiung.

Mae Hailu yn hanu o Haifeng a Lufeng yn Guangdong ac mae’n cael ei siarad yn bennaf yn Hsinchu.

Mae Hakka Taiwaneg wedi’i rhestru fel un o ieithoedd cenedlaethol Taiwan, ac ar ben y prif dafodieithoedd, mae iddi dafodiaith ogleddol Xihai, a’r tafodieithoedd mwy prin – Yongding, Fengshun, Wuping, Wuhua a Jiexi.

‘Y sefyllfa yng Nghymru ddim yn unigryw’

Dywedodd Owain Meirion, Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:

“Bu hi’n braf ofnadwy cael trafod ein hiaith a’n diwylliant gyda’r ddirprwyaeth ac roedd eu diddordeb yn y Gymraeg a’r ymgyrchoedd i’w hamddiffyn yn anhygoel,” meddai Owain Meirion, Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith, wrth golwg360.

“Yn benodol, roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn sut rydyn ni fel Cymdeithas yr Iaith yn dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru, a’r ystod o ddulliau rydym wedi eu defnyddio ar hyd y blynyddoedd.

“Cawson ni ein hatgoffa yn ystod y cyfarfod nad yw ein sefyllfa yng Nghymru yn unigryw, a bod miloedd o ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd sydd oll yn werthfawr ac angen eu hamddifyn.”