Mae Paul Davies, arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw am newid ieithwedd wleidyddol yn sgil llofruddiaeth Syr David Amess.
Roedd yr aelod seneddol o Southend yn cymryd rhan mewn cymhorthfa yn ei etholaeth pan gafodd ei drywanu i farwolaeth.
Heddiw (dydd Mawrth, Hydref 19), ar ôl cynnal munud o dawelwch, mae arweinwyr y prif bleidiau yn y Senedd wedi bod yn talu teyrnged iddo.
Yn eu plith roedd Paul Davies, sydd wedi camu i esgidiau Andrew RT Davies am y tro.
“Rhaid i’r sgwrs fod yn garedicach ac yn seiliedig ar barch,” meddai.
“Gwleidyddion, ymgyrchwyr a’r cyfryngau; mae gennym oll ran i’w chwarae wrth annog dadl iach a thrafodaeth yn seiliedig ar syniadau a pharch.
“Ond eto, mae iaith ymfflamychol yn cael ei defnyddio.
“Mae sylwadau ymosodol llawn casineb yn cael eu postio ar-lein ac mae erthyglau’r cyfryngau’n gwneud cythreuliaid o ffigurau cyhoeddus ac yn eu gwaradwyddo.”
‘Cyffredinedd ysgeler sy’n aml yn fwyaf iasol’
Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, wedi galw ar wleidyddion i “fwrw ati” er gwaetha’r digwyddiad.
“Cyffredinedd ysgeler sy’n amlwg yn fwyaf iasol,” meddai.
“Heddiw, rydym yn anfon neges o dristwch ac o gydymdeimlad i ffrindiau a theulu Syr David Amess.
“Ond yn y loes a’r erchylltra, rydym hefyd yn anfon y neges hon: Rydym yn bwrw ati – yn ymwybodol o’n diogelwch ein hunain a’n staff – ond heb fod byth yn barod i ildio’n cyfrifoldeb am ddiogelwch democratiaeth Cymru a’r pethau pob dydd hynny sy’n ei chadw’n iach ac yn gyfan ac mae ein hetholwyr yn edrych tuag atom i helpu i’w cadw.”
‘Anwyldeb a chynhesrwydd’
Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fe fydd Syr David Amess yn cael ei gofio ag “anwyldeb a chynhesrwydd”.
“Bob man y byddai’n mynd, daeth David â goleuni,” meddai.
“Roedd yn symbol perffaith o’r hyn ddylai seneddwr fod.
“Roedd yn ddyn o egwyddorion mawr ond â’r anwyldeb mwyaf.
“Argyhoeddiad cryf â chalon garedig a fu farw fel yr oedd yn byw, yn gwrando ar y bobol.
“Prin fod neb o’r bobol dw i wedi cwrdd â nhw y mae’r term ‘cyfaill anrhydeddus’ yn gweddu’n fwy iddyn nhw.”