Mae Llywodraeth Iwerddon wedi ei gwneud hi’n glir oes modd cael gwared ar Brotocol Gogledd Iwerddon.
Daw hyn wrth i’r Deyrnas Unedig ofyn am ymestyn y ‘cyfnod gras’ – cyfnod o weithredu’r rheoliadau yn ‘ysgafn’.
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, wedi galw am ddisodli’r mesur a gynlluniwyd i gadw’r ffin yn Iwerddon ar agor.
Ond mae Dulyn yn canolbwyntio ar leddfu problemau gyda chytundeb masnach Brexit, sydd wedi achosi aflonyddwch ym mhorthladdoedd Iwerddon.
Dywedodd Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney: “Mae angen i ni fod yn onest gyda phawb – nid yw’r protocol yn mynd i gael ei ddileu.”
Ychwanegodd fod gweinidogion eisiau bod o gymorth a bod hyblygrwydd yn bosib ond mae’r problemau’n ganlyniad i safbwynt negodi Brexit y Deyrnas Unedig.
“Ni fydd newid dramatig iawn,” meddai wrth BBC Radio Ulster.
Mae archwiliadau ar nwyddau sy’n dod i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, sy’n ofynnol o dan y protocol, wedi’u hatal yn sgil bygythiadau i staff.
Cynhaliodd Gweinidog Swyddfa Gabinet y Deyrnas Unedig, Michael Gove, ac is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, gyfarfod rhithwir gyda Arlene Foster a’r Dirprwy Brif Weinidog Michelle O’Neill nos Fercher (Chwefror 3), a bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
Y Deyrnas Unedig wedi “gwrthod” rhannu un farchnad ac undeb tollau
“Rydyn ni eisiau i’r protocol weithredu mewn ffordd sy’n gweithio i bawb, gogledd a de, ar ynys Iwerddon,” meddai Simon Coveney.
Aeth ymlaen i ddweud fod y protocol yn ganlyniad i Brexit ac yn dilyn dwy flynedd o drafodaethau, gan ychwanegu bod opsiynau wedi eu “culhau’n sylweddol” wrth liniaru effaith Brexit yn Iwerddon.
“Roedd yr Undeb Ewropeaidd am rannu un farchnad ac undeb tollau, ond cafodd hynny ei wrthod,” meddai.
Mae Boris Johnson wedi rhybuddio ei fod yn barod i ddiystyru elfennau o setliad ysgariad Brexit sy’n ymwneud â Gogledd Iwerddon er mwyn atal rhwystr masnach rhag datblygu ym Môr Iwerddon.
Yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Aelod Seneddol y DUP, Ian Paisley, wrth y Prif Weinidog fod y protocol wedi “bradychu” ei etholwyr, gan eu gwneud i “deimlo’n estron yn eu gwlad eu hunain”.
Tensiynau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dwysáu
Bydd is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, yn teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cynnal trafodaethau’r wythnos nesaf wrth i densiynau rhwng Llundain a Brwsel ddwysáu.
Mae’n destun pryder cynyddol bod mesurau yn y Cytundeb Brexit oedd i fod i gadwr ffin â’r Weriniaeth ar agor yn tarfu ar fasnach rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd llefarydd y Comisiwn Ewropeaidd, Eric Mamer: “Peth dros dro oedd y cyfnod gras i fod, ac roedd amodau caeth.
“Penderfynwyd ar hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig ar y pryd.”
Gwaethygwyd sefyllfa anodd ymhellach yr wythnos diwethaf pan ddefnyddiodd y Comisiwn Erthygl 16 o Brotocol Gogledd Iwerddon i gau’r ffin i allforion y brechlyn coronafeirws o Weriniaeth Iwerddon.
Dywedodd Simon Coveney ei bod yn afrealistig disgwyl i’r protocol gael ei ddileu.
“Crïo dagrau hallt”
Mae arweinydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, wedi galw am arweinyddiaeth “gall ac aeddfed”.
“Y peth cyntaf sydd ei angen arnom nawr ydi cool heads, mae angen arweinyddiaeth gall ac aeddfed,” meddai.
“Mae angen nodi’r problemau cychwynnol hynny sy’n bodoli ac mae angen eu datrys.
“Mae angen i’r rhai oedd yn hyrwyddo Brexit ac sy’n crïo dagrau hallt nawr oherwydd canlyniadau Brexit dderbyn bod y rheiny’n ganlyniadau i’w penderfyniadau, eu gweithredoedd, ac i beidio pwyntio bys at eraill.”