£12m yn rhagor y flwyddyn fyddai cost cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i 90, yn ôl amcangyfrifon newydd.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru 60 o ASau, ond mae trafodaeth wedi bod ynghylch cynyddu’r nifer ers blynyddoedd lawer.

Ac yn 2017, fe wnaeth panel o arbenigwyr awgrymu y dylid cyflwyno 20, neu 30, yn rhagor o wleidyddion i’r siambr.

Byddai 90 o ASau yn golygu cost £11.7m yn uwch yn ystod blynyddoedd pan nad oes etholiad, a £12.9m yn ystod blynyddoedd pan mae etholiad.

Mae’r ffigurau yma wedi’u hamlinellu gan y Llywydd, Elin Jones; wedi eu hadrodd gan BBC Cymru; a fydd dim newidiadau cyn etholiad Senedd flwyddyn nesa’.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, wedi cefnogi’r cynnydd, gan ddweud nad oes gan y Senedd ar hyn o bryd y gallu i gyflawni ei swyddogaethau “craffu a deddfu nawr ac at y dyfodol”.

Gwario

Byddai Senedd 80 aelod yn costio rhwng £8.6m a £9.5m yn rhagor y flwyddyn.

Rhwng 2018 a 2019 mi wariodd Senedd Cymru – y Cynulliad oedd e bryd hynny – £56.5m (ffigur net yw hynny).

Ymateb

Mae llawer wedi ymateb i’r drafodaeth am nifer yr Aelodau Seneddol drwy gymharu cost y Senedd a chost deddfwrfeydd eraill.