Richard Wyn Jones
Bu’r Athro Richard Wyn Jones yn annerch cynulleidfa heddiw ar faes yr Eisteddfod drwy ddadansoddi’r dirwedd wleidyddol gyda phwyslais arbennig ar etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Gan fod y dirwedd wleidyddol yn ‘sticky’ roedd Richard Wyn Jones yn amau y bydd ‘newidiadau radical’ yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Cyfeiriodd at lwyddiant ‘effeithiol’ ymgyrchu’r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol, arweinyddiaeth y blaid Lafur a dadansoddiad o etholiad y Cynulliad yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.

Mae Richard Wyn Jones yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Llywodraethiant Cymru a chafodd y drafodaeth ei gadeirio gan y newyddiadurwr Gareth Hughes.

‘Niweidiol’

Dywedodd fod y broses yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi bod yn ‘niweidiol’ i’r blaid a hynny wedi etholiad cyffredinol ‘sobor o wael’ iddynt.

Ychwanegodd Richard Wyn Jones fod yr etholiad yn “drafodaeth rhwng pedwar” a bod y ddadl “yn un fewnol.” Roedd yn “anodd iawn” iddo weld Jeremy Corbyn fel Prif Weinidog ategodd.

“Rhaid i Lafur ennill yn Lloegr,” meddai gan ychwanegu na fedrant ddibynnu ar Gymru a’r Alban.

Y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn hafal

Ni fydd Richard Wyn Jones wedi synnu os fydd gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yr un nifer o seddi wedi etholiad y Cynulliad ac roedd yn amau y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill mwy na dwy sedd.

Ychwanegodd ei fod yn tybio y bydd gan UKIP ddigon o seddi i ffurfio grŵp o fewn y Cynulliad.

Cefnogodd hefyd y syniad o ostwng yr oedran pleidleisio i 16, er nad oedd ar y cychwyn yn gefnogol. Ond roedd y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban wedi ei argyhoeddi, meddai