Mae Harriet Harman o’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi bore ma bod y prif bleidiau wedi dod i gytundeb ynglŷn â mesurau newydd i reoli’r wasg.

Dywedodd dirprwy arweinydd y Blaid Lafur y bydd siarter yn cael ei chyhoeddi bore ma a’i chyflwyno i Aelodau Seneddol prynhawn ma.

Fe fydd y Siarter Frenhinol i reoleiddio’r wasg yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth, yn groes i ddymuniad y Prif Weinidog.

Mae’r siarter yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan yr Arglwydd Ustus Leveson yn ei adroddiad.

Fe ddechreuodd y Prif Weinidog ymdrechion munud-olaf i ddod i gytundeb ddoe wrth iddo wynebu cael ei drechu ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach heddiw.

Y gobaith yw, meddai Harriet Harman, y bydd Tŷ’r Arglwyddi yn cytuno ar “ddarn bach o ddeddfwriaeth” a fyddai’n atal gwneud y siarter yn fwy cymhedrol.