Mae’r Heddlu yn apelio am dystion ar ôl  ymosodiad ar ddyn ym Modelwyddan.

Cafodd yr heddlu eu galw i  Morfa View, Bodelwyddan tua 7.15pm ddydd Sul, 27 Tachwedd.

Roedd dyn 20 mlwydd oed wedi dioddef anafiadau difrifol i’w wyneb. Mae wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae dau ddyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae’r Heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a oedd yn nhafarn Tŷ Fry sy’n agos i’r safle lle digwyddodd yr ymosodiad.

“Rydym ar ddeall fod yna bobl yn y dafarn a bod yna unigolion eraill yng nghyffiniau Morfa View adeg y digwyddiad.  Rydym yn annog yr unigolion hynny i’n cynorthwyo ni gyda’r ymchwiliad,” meddai  Ditectif Gwnstabl Morgan Thomas.

Fe ddylai unrhyw un  â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Ditectif Gwnstabl Morgan Thomas ar 101 os yng Nghymru; 0300 3300101 neu Taclo’r Tacle/Crimestoppers ar 0800 555 111.