Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Margaret Edwards, 74, cyn-arweinydd Côr Betws Gwerfyl Goch, a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A5 ym Mhentrefoelas, Sir Conwy nos Sadwrn (Rhagfyr 28).
Roedd hi’n arweinydd côr ac un o hoelion wyth y byd cerdd dant, ac wedi cyfieithu ‘Un Dydd ar y Tro’ gan Trebor Edwards.
Cafodd ei chôr ei sefydlu yn 1987 fel Côr Aelwyd, gan ddod yn adnabyddus mewn eisteddfodau a gwyliau cerdd dant.
Aeth y côr o fod yn Gôr Aelwyd i fod yn Gôr Bro Gwerfyl pan aeth yr aelodau’n hŷn. Roedd hi hefyd yn adnabyddus am ei deuawdau gyda Trebor Edwards.
“Cyfraniad amhrisiadwy”
Mae’n fam i Elin Angharad, Tudur a’r actores Leisa Mererid.
Mewn datganiad dywedodd ei theulu: “Yn fam annwyl i Elin, Leisa a Tudur a nain gariadus a balch i naw o wyrion ac wyresau, bu cyfraniad Margaret Edwards i’w chymdeithas, i fyd addysg a cherddoriaeth yn amhrisiadwy.
“Fe’i cofir yn bennaf fel cantores, cyfansoddwraig, arweinyddes Côr Bro Gwerfyl a chyfieithydd y gân adnabyddus ‘Un Dydd ar y Tro.’ Bydd hiraeth a bwlch mawr ar ei hôl.”
“Cantores o fri”
Wrth roi teyrnged i Margaret Edwards, dywedodd Arfon Williams, llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru a ffrind i’r teulu, ei bod yn “gantores o fri” a bod ganddi’r “gallu i drosglwyddo’r ddawn honno i hyfforddi pobol eraill.”
Bu’n brifathrawes am nifer o flynyddoedd yn Ysgol Dinmael, Corwen ac roedd wedi parhau i hyfforddi plant yn ysgolion yr ardal ar ôl iddi ymddeol, meddai.
“Roedd cerddoriaeth yn ei gwaed hi. Roedd hi’n berson reit ddisgybledig, ond yn berson llawen iawn ac yn gweld y da ym mhawb. Roedd hi mor gefnogol i bopeth yn yr ardal, yn cefnogi bob dim,” meddai Arfon Williams.
“Sioc ofnadwy”
Ychwanegodd bod ei marwolaeth wedi bod yn “sioc ofnadwy” i’r teulu.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am gar Toyota Rav 4 oedd yn teithio ar hyd yr A5 am oddeutu 9.20 y nos. Dim ond un cerbyd oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.