Camerau cyflymder Llun: PA
Mae cosbau llymach yn dod i rym heddiw ar gyfer gyrwyr sy’n goryrru yng Nghymru a Lloegr.
Bydd gyrwyr sy’n cael eu dal yn gyrru ar gyflymder o fwy na 51 milltir yr awr (mya) mewn ardal sydd â therfyn o 30mya yn cael dirwy o 150% neu’n fwy o’u cyflog wythnosol.
Mae’r un gyfradd yn cael ei defnyddio i gosbi gyrwyr sy’n gyrru 101 mya ar draffordd.
Roedd cyfradd y ddirwy o’r blaen yn dechrau ar 100% o incwm wythnosol cartref.
Croesawu’r newid
Mae mudiadau moduro wedi croesawu’r newid yn y gyfraith, gyda Steve Gooding o Sefydliad yr RAC yn dweud fod y mesurau “yn tanlinellu pa mor ddifrifol mae’r llysoedd yn ystyried troseddau goryrru.”
Er hyn, fe wnaeth godi pryderon am nifer swyddogion yr heddlu a ffynonellau sydd ar gael i weithredu’r mesurau.
“Rydym yn poeni fod pwysau eraill ar amser yr heddlu yn tanseilio pa mor effeithiol fydd tynhau’r sancsiynau hyn,” meddai.