Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai ffôn symudol wedi’i gysylltu i’r trydan dros nos oedd achos y tân mewn tŷ yn Morfa Bychan yn gynharach yr wythnos hon.

Fe gafodd y diffoddwyr tân eu galw am 7.48yh nos Fawrth, Tachwedd 15, lle’r oedd tân wedi cynnau mewn ystafell wely merch ifanc.

Daeth y diffoddwyr i’r casgliad mai batri wedi gorboethi yn y ffôn symudol gychwynnodd y tân a ymledodd ar draws y llofft gan ddifrodi’r llawr gwaelod a’r ail lawr.

“Mae’r digwyddiad hwn yn dangos pa mor gyflym y gall tân ymledu,” meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân y gwasanaeth.

“Ein cyngor ni yw y dylech ond brynu gwefrwyr o ffynhonnell ddibynadwy. Dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau’r gwneuthurwr bob amser, diffoddwch y gwefrwyr a’u dad-blygio cyn mynd i’r gwely a pheidiwch byth â gadael eitemau’n gwefrio neu heb dalu sylw iddynt am gyfnodau maith.

“Dylech bob amser wefrio eich ffôn ar wyneb caled. Peidiwch â’i wefrio ar ddillad gwely neu unrhyw wyneb llosgadwy.

Maen nhw hefyd wedi rhannu fideo yma yn dangos pa mor gyflym y gall tân ymledu o ganlyniad i ffôn symudol sy’n gwefrio.