Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn sydd ar goll o’i gartref ym Margoed, Cwm Rhymni.

Mae Stuart Neilson, 41, yn ddyn gwyn a main, ac yn mesur tua pum troedfedd wyth modfedd o daldra.

Mae ei wallt yn frown tywyll neu’n ddu, a dyw e ddim yn siafio. Mae ganddo lygaid brown.

Yn ôl yr heddlu, mae’n mynd i ardaloedd Bargoed a Gilfach, sy’n bentref gwyliau bychan ger Bargoed, yn aml.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod am le gall Stuart Neilson fod, ffonio’r heddlu ar y rhif 101.