Wrth i Rhys Hobbs, 44, gael ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar am ddynladdiad Andrea Lewis yng Nghastell Nedd ddechrau eleni, mae Heddlu De Cymru wedi defnyddio’r achos i annog pobol i riportio achosion o drais yn y cartre’.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ystod yr achos bod Andrea Lewis a Rhys Hobbs mewn perthynas dreisgar, a bod y trais yn y cartre’ wedi arwain, yn y diwedd, at ei marwolaeth.

Wedi’r achos yn Llys y Goron Abertawe yr wythnos hon, meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Mae taclo trais yn y cartre’ yn flaenoriaeth i ni, ac rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n diodde’, neu’n gwybod am rywun sy’n diodde’, i fynd i chwilio am help a chefnogaeth gan y sefydliadau ardderchog sydd allan yna.

“Mae hi yr un mor bwysig i bobol sy’n gwybod am achosion o drais yn y cartre’ i riportio hynny, a chofio bod modd iddyn nhw siarad â’r heddlu yn ddienw ac yn gyfrinachol.”

Roedd Rhys Hobbs wedi cyfadde’ i ladd Andrea Lewis, 51 oed. Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff, yn gleisiau i gyd, mewn ty yn Fairyland Road, Tonna ar Ionawr 30.