Mae gwleidydd trawsryw cyntaf Gwlad Pŵyl wedi colli’r etholiad i fod yn ddirprwy lefarydd senedd y wlad.
Cafodd Anna Grodzka ei hethol yn aelod seneddol Krakow yn 2011 a chafodd gryn sylw am ei bod hi’n arfer bod yn ddyn.
Daeth hi’n symbol yn ystod y blynyddoedd diwethaf o newid yn agweddau ceidwadol Pwyliaid, sydd ar y cyfan yn Gatholigion.
Bu’n rhaid i ymgeisydd arall o’r un blaid ag Anna Grodzka, Wanda Nowicka dynnu allan o’r ras ar ôl cyfaddef derbyn bonws o 40,000 zloty yn ystod un o gyfnodau ariannol gwaethaf y wlad.
Ond chafodd hi mo’i diswyddo.
Cafodd Anna Grodzka driniaeth i ddod yn ddynes yn 2010, ac mae hi wedi cael cryn sylw mewn cylchgronau a phapurau newydd.
Mae hi wedi bod yn destun nifer o erthyglau sy’n edrych ar rôl newidiol menywod yn y gymdeithas gyfoes yn y wlad honno.
Mae yna gryn gefnogaeth erbyn hyn yn y wlad i nifer o bynciau oedd yn arfer bod yn rhai tabŵ, gan gynnwys rhoi triniaeth IVF i fenywod.
Cynyddodd y gwrthwynebiad i’r driniaeth yn dilyn cwymp Comiwnyddiaeth, pan gryfhaodd afael yr Eglwys Gatholig ar bobl y wlad.
Daeth Gwlad Pŵyl yn wlad lai ceidwadol wedi iddi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn 2004, a chael ei dylanwadu fwyfwy gan wledydd y Gorllewin.
Mae aelod seneddol hoyw cyntaf Gwlad Pwyl, Robert Biedron, hefyd yn aelod o blaid Anna Grodzka.