Mae cyfres o stampiau Arwyr Pêl-droed yn ffurfio tîm o chwaraewyr o wledydd Prydain a osododd eu stamp ar y gêm, i gyd-fynd gyda dathlu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn 150 oed.

Ymhlith y wynebau  sydd wedi cael eu darlunio gan yr artist Andrew Kinsman mae Bobby Charlton o Loegr, Denis Law o’r Alban, George Best o Ogledd Iwerddon, a’r cawr o Gwmbwrla, John Charles.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, y bydd “pob cefnogwr pêl-droed, nid yn unig yng Nghymru, wrth eu bodd o glywed fod John Charles yn cael ei anrhydeddu yn y ffordd yma.

“Mae John Charles wedi cael ei ddisgrifio fel ymosodwr a chwaraewr canol-cae o safon fyd-eang.

“Roedd hefyd yn ŵr bonheddig, oedd yn dangos parch tuag at bawb.

“Roedd yn Gymro balch, un o’r goreuon heb amheuaeth.”

Pwy oedd John Charles?

Mae’n cael ei gyfrif yn bêl-droediwr gorau Cymru erioed.

Roedd yn dal ac yn gryf, ac yn nodedig am ei allu i benio’r bêl. Ond roedd ganddo hefyd gyffyrddiad cain.

Cafodd ei alw’n ‘Gawr Tyner’ yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus gyda Juventus rhwng 1957 a 1962.  Ni chafodd gerdyn gan ddyfarnwr erioed yn ei yrfa.

Ym 1997, 35 mlynedd ar ôl ei ymddangosiad olaf yn yr Eidal, enwyd Charles fel y tramorwr gorau i chwarae yn y Serie A.

Caiff y stampiau eu lansio ar 9 Mai 2013 a gall cefnogwyr archebu ymlaen llaw ar wefan y Post Brenhinol. Un sydd wedi cael cipolwg ar y stamp o flaen llaw yw cyn-chwaraewr Abertawe Gareth Phillips, sydd bellach yn bostmon.