Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn ar Gogarth Llandudno heddiw, yn dilyn ymgyrch chwilio fawr.

Cafodd hofrennydd yr heddlu ei ddefnyddio i gyrraedd y dyn canol oed, a gafodd ei ddarganfod ar greigiau ar y Gogarth gan wasanaethau brys am 9yb.

Gweithiodd  yr heddlu a Gwylwyr y Glannau gyda’r Awyrlu i gyrraedd y dyn, a’i godi o’r clogwyn.  Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ond roedd eisoes wedi marw.

Dydy Heddlu Gogledd Cymru heb gyhoeddi enw’r dyn hyd yn hyn.