Ben Thompson
Mae’r heddlu yn dal i chwilio am ddyn o Hwlffordd, aeth ar goll yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd Ben Thompson, 34, ei weld y tro diwethaf yng nghanol y ddinas, lle yr oedd wedi bod yn gwylio’r gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon.  Roedd gyda ffrindiau am 6.30yh yn ardal Mill Lane, ond does neb wedi ei weld ers hynny.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio eto am wybodaeth ynglŷn â Ben Thompson, ac maen nhw’n parhau i chwilio ardal Treganna wedi iddo gael ei weld ar gamera cylch-cyfyng tua 7 o’r gloch nos Sadwrn.

Mae Ben Thompson yn 5’9” o daldra, gyda gwallt brown byr a llygaid glas.  Roedd yn gwisgo esgidiau brown, jîns glas a chrys wen gyda streipiau glas.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano i gysylltu gyda Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd ar 02920 338 465.