Mae cynghorwyr yng Nghonwy yn cyfarfod â swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr heddiw er mwyn trafod ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd yn y gogledd.

Penderfynodd y cyngor yr wythnos diwethaf i ohirio pleidlais o ddiffyg hyder yn y rheolwyr yn dilyn eu penderfyniadau dadleuol i symud rhai gwasanaethau y tu allan i Gymru.

Mae’r cyfarfod heddiw yn un o nifer o gyfarfodydd a fydd yn cael eu cynnal yn ystod cyfnod o bythefnos a gafodd ei gytuno yn sgil y penderfyniad i ohirio’r bleidlais.

Roedd disgwyl i ysbytai cymunedol Blaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn gau fel rhan o’r cynlluniau i ad-drefnu.

Ac fel rhan o’r cynlluniau, gallai uned gofal dwys i fabanod newydd gael ei symud o ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i Gilgwri yr ochr draw i’r ffin.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mai rhesymau ariannol oedd y tu ôl i’r penderfyniad.

Roedd tri o gynghorwyr Conwy – Cheryl Carlisle (Ceidwadwyr), Brian Cossey (Dem Rhydd) a Phil Edwards (Plaid Cymru) wedi cyflwyno’r cynnig i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder, ond penderfynon nhw ohirio’r bleidlais er mwyn rhoi cyfle i’r bwrdd iechyd ail-ystyried eu penderfyniadau.