Kirstie a Catherine Fields
Mae ffilm ddogfen Gymraeg wedi cael ei henwebu am wobr yn y New York Festivals Awards.
Roedd ‘Fy Chwaer a Fi’ yn rhan o’r gyfres ddogfen O’r Galon ar S4C yn adrodd hanes Catherine a Kirstie Field, efeilliaid deunaw oed o Bryn ger Llanelli sydd yn dioddef o gyflwr niwrolegol unigryw sydd wedi eu parlysu a dwyn eu gallu i siarad.
Yn y rhaglen, roedd yr efeilliaid yn cyfathrebu â’r gynulleidfa trwy ddefnyddio peiriant arbennig, ac yn rhannu eu stori gyda’r byd am y tro cyntaf.
Fe wnaeth y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr, Mei Williams, ddilyn y ddwy am flwyddyn a hanner gan ddod i’w hadnabod yn dda.
Dywedodd Mei Williams: “Rydym i gyd yn hynod falch fod ‘Fy Chwaer a Fi’, wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol.
“O ’nabod y teulu yn dda, dydi hi’n fawr o syndod bod eu hysbryd a’u dewrder wedi cael argraff gref ar bobl tu hwnt i Gymru hefyd. Yn wyneb salwch difrifol mae Catherine a Kirstie yn ysbrydoliaeth i ni gyd.”
Mae’r New York Festivals Awards yn gwobrwyo’r goreuon o raglenni a ffilmiau’r byd teledu yn fyd-eang ac mae Fy Chwaer a Fi wedi cyrraedd y rhestr derfynol yng nghategori cynyrchiadau sy’n rhoi sylw i achosion dynol.
Dywedodd comisiynydd rhaglenni dogfen S4C, Llion Iwan: “Bwriad y rhaglen oedd gwireddu dyhead yr efeilliaid i siarad am eu bywydau , er bod yn rhaid gwneud hynny trwy gymorth peiriant lleferydd.
“Roedd eu hawydd i rannu eu teimladau ac anwyldeb eu personoliaethau’n dod drosodd yn glir. Rydym yn falch iawn o’r ffilm ddogfen arbennig hon, ac mae cyrraedd y rhestr derfynol yma yn cadarnhau hynny ac yn gydnabyddiaeth o gryfder rhaglen oedd wedi gwneud argraff fawr ar gynulleidfa S4C.”
Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mewn seremoni yn Las Vegas ar 9 Ebrill.