Yn dilyn trafodaethau rhwng llywodraethwyr a Chyngor Gwynedd, mae penderfyniad wedi ei wneud i gau Ysgol Llidiardau, Rhoshirwaen ym mis Awst eleni.

Bu trafodaeth yn dilyn gostyngiad yn nifer y plant yn yr ysgol gynradd, gydag ond 14 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd.  Mae hyn yn golygu bod 43 o lefydd yn wag yn yr ysgol, bron i 75%.

Ddoe, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd eu cynlluniau i gau tair ysgol arall, Y Groeslon, Carmel a Brynyfoel, ac adeiladu un ysgol newydd werth £4.8 miliwn ar safle Ysgol Y Groeslon.  Daeth y cyhoeddiad yn dilyn pryderon gan nifer o rieni am gyflwr gwael adeiladau’r ysgolion.

‘Tristwch’

Dywedodd Carol Thomas, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llidiardau: “Gyda thristwch y gwnaethom y penderfyniad y bydd yr ysgol yn cau ar ddiwedd y flwyddyn ysgol hon. Ein prif ystyriaeth bellach fydd trosglwyddo’r disgyblion i ysgolion lleol eraill a gwneud hynny gyda chyn lleied o effaith a phosib ar y plant.”

Dywedodd y cynghorydd Siân Gwenllian bod rhaid ystyried addysg plant yr ardal o flaen unrhyw beth arall.

“Mae bob amser yn dristwch mawr pan mae dyfodol unrhyw ysgol dan sylw;  fodd bynnag, y flaenoriaeth bob amser ydi sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y cyfleoedd addysgol gorau posibl yn hytrach na chanolbwyntio ar frics a morter,” meddai Siân Gwenllian.

“Tra nad ydi’r Cyngor ar hyn o bryd yn adolygu’r ddarpariaeth addysgol yn yr ardal hon, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn Ysgol Llidiardau, rydym wedi cytuno i gydweithio â’r ysgol i ganfod sut orau i fwrw ymlaen.”
Bydd dyfodol Ysgol Llidiardau, a’r tair ysgol arall, yn cael eu trafod gan Gabinet Gwynedd ar 27 Chwefror.