Mae tair chwaer o ardal y Rhyl ymhlith yr hynaf ym Mhrydain gyda chyfanswm eu hoedran yn 304.

Bu Eirwen Roberts, o’r Rhyl, yn dathlu ei phen-blwydd yn 104 wythnos ddiwethaf, ond nid Eirwen yw’r unig aelod o’i theulu i gyrraedd oedran trawiadol – mae ei dwy chwaer, Eluned, sy’n 101 a Carys, sy’n 99, hefyd yn dal i fyw yn yr ardal.

Bellach, Eirwen yw’r preswyliwr hynaf yn y cartref nyrsio lle mae hi’n byw, ym Mrychdyn Sir y Fflint, ac mae ei dwy chwaer yn dal i fyw yn annibynnol yn ardal y Rhyl.

Wrth siarad a Golwg360, dywedodd merch Eirwen, Janet Roscoe, sydd yn byw yn yr Wyddgrug, bod y tair chwaer wedi eu bendithio ag iechyd da drwy eu bywydau, a’r gyfrinach i fywyd hir oedd aros yn brysur.

“Mae’r tair bob amser wedi bwyta yn dda iawn, ond roedd mam yn dweud ei bod hi rhy brysur i feddwl am ei hoedran, a’i bod hi wedi parhau i fyw ei bywyd heb feddwl am y peth,” meddai Janet.

Dim ond ym mis Mai’r llynedd symudodd Eirwen i’r cartref gofal, a bu rhaid iddi ddathlu yno ddydd Gwener oherwydd i’r eira rwystro iddi deithio yn bell iawn.

“Fe gawson ni ddathliad bychan ar y diwrnod, ond dim byd mawr oherwydd yr eira,” meddai Janet. “Ond mae’n siŵr y cawn ni ddathlu yn iawn yn hwyrach yn y flwyddyn, hefo’r holl deulu gobeithio.”

Cafodd Eirwen ei geni yn y Rhyl yn 1909, a gweithiodd fel llyfrgellydd yn y dref am sawl blwyddyn.  Dywedodd Janet bod ei mam wedi byw “bywyd prysur iawn, ond bywyd boddhaol hefyd.”