Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried cynllun i gau tair ysgol yn y sir ac agor ysgol newydd gwerth £4.8 miliwn.
Mae Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sian Gwenllian wedi cyflwyno ei hargymhellion sy’n cynnwys cau ysgolion Y Groeslon, Carmel a Bronyfoel ac adeiladu ysgol ardal newydd ar safle presennol Ysgol y Groeslon.
Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 27 Chwefror. Daw’r argymhellion yn dilyn pryderon nifer o rieni am gyflwr gwael yr ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian: “Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi edrych yn fanwl ar sawl opsiwn a lleoliad posibl a’u heffaith posibl ar addysg disgyblion, cynaladwyedd hir dymor addysg yn yr ardal a’r iaith Gymraeg.
“Cadarnhaodd y gwaith yma mai adeiladu ysgol ardal newydd ar un safle oedd yr ateb gorau o bell ffordd o ran darparu cyfleoedd addysgol ac ieithyddol i ddisgyblion y tair cymuned.
“Yn benodol, dangosodd yr asesiad ardrawiad iaith annibynnol y byddai’r opsiwn o adeiladu ysgol ardal newydd ar un safle yn cryfhau sefyllfa’r iaith Gymraeg ar draws yr ardal gan y byddai mwyafrif sylweddol o’r disgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith.”
‘Cydymdeimlo’
Ychwanegodd: “Rwyf yn llwyr gydymdeimlo a chymunedau’r Fron a Charmel a fydd yn naturiol wedi eu tristau gyda’r newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, gellir eu sicrhau y bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i’w cefnogi trwy’r cyfnod anodd hwn ac i leihau effaith cau posibl yr ysgolion ar fywyd cymunedol.
“Bu hwn yn benderfyniad anodd; fodd bynnag, rydw i’n hyderus mai’r opsiwn y byddaf yn ei argymell i’r Cabinet ydi’r ateb a fydd yn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant Carmel, Y Fron a’r Groeslon.”
Os yw’r argymhelliad i adeiladu ysgol ardal newydd ar safle presennol Ysgol y Groeslon yn cael sêl bendith Cabinet y Cyngor ar 27 Chwefror bydd cyfnod o ymgynghoriad lle caiff disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a staff y cyfle i gyflwyno eu sylwadau.