Mae perchnogion y Western Mail a’r Daily Post wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cael gwared a swyddi yn eu papurau rhanbarthol.

Yn ôl Trinity Mirror bydd 40 o swyddi golygyddol yn diflannu wrth iddyn  nhw symud y pwyslais o’r wasg brint i’r wasg ddigidol, a chanoli adnoddau.

Mae adroddiadau fod 15 o swyddi am ddiflannu o Media Wales, sy’n cynhyrchu’r Western Mail, y South Wales Echo, y Wales on Sunday a phapurau lleol yn y cymoedd.

Mae adroddiadau fod o leiaf pedair swydd yn diflannu o’r Daily Post yn y gogledd.

Bydd Trinity Mirror yn datblygu canolfan yn Lerpwl i gynhyrchu deunydd a fydd yn medru cael ei ddefnyddio yn holl bapurau rhanbarthol y cwmni.

Symud pwyslais

Yn ôl Neil Benson, Cyfarwyddwr Golygu Trinity Mirror, mae pwyslais y cwmni wedi bod ar y wasg brintiedig tan nawr.

“Mae’r cam newydd yma yn un dewr a chreadigol a bydd yn caniatáu inni ganolbwyntio ar newyddion digidol a thynnu ynghyd y gorau o’n newyddiaduraeth genedlaethol a rhanbarthol.

“Nid yw hi fyth yn hawdd i wneud y penderfyniadau hyn pan mae’n effeithio ar gyd-weithwyr fel hyn ond mae’n rhaid inni ail-addasu’r modd rydym yn gweithio os yw ein newyddiaduraeth am fod yn llewyrchus,” meddai.