David Cameron
Mae gobeithion David Cameron i newid y ffiniau etholaethol cyn etholiad cyffredinol 2015 wedi cael eu trechu yn Nhŷ’r Cyffredin.

Fe bleidleisiodd 334 o blaid a 292 yn erbyn, sef mwyafrif o 42, i ohirio’r adolygiad i newid y ffiniau etholaethol tan 2018. Roedd y Democrataid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn y  Ceidwadwyr er mwyn dial am fethiant y Llywodraeth i gefnogi cynlluniau i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Roedd y Prif Weinidog wedi gobeithio y byddai’r newidiadau yn cael eu cyflwyno cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, gan olygu y byddai gan y Blaid Geidwadol 20 o seddi ychwanegol.

Ond fe bleidleisiodd ASau o blaid gwelliant i’r mesur sy’n gohirio adolygiad o’r ffiniau tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Fe fyddai’r cynllun yn golygu bod nifer yr ASau yn gostwng o 650 i 600. Yng Nghymru fe fyddai nifer yr ASau yn gostwng o 40 i 30.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Owen Smith bod y bleidlais heddiw yn “fuddugoliaeth i Gymru” ac yn ergyd i’r Blaid Geidwadol oedd wedi ceisio “aberthu” llais Cymru yn San Steffan.

“Petai’r newidiadau yma wedi cael eu cyflwyno fe fyddai gostyngiad o 25% yn nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru, a fyddai wedi arwain at ostyngiad yn nylanwad Cymru yn y Senedd yn San Steffan,” meddai Owen Smith.