Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dyn wedi cyfaddef iddo geisio llofruddio ei gymdogion.

Mae’n dilyn digwyddiad yn Llandudno fis Awst y llynedd pan gafodd cwpl eu trywanu nifer o weithiau.

Roedd disgwyl i’’r diffynnydd Sean Hedley Tierney, 66, fynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug yr wythnos hon. Ond funudau’n unig cyn i’r rheithgor gyrraedd heddiw, fe blediodd yn euog.

Dywedodd y barnwr Merfyn Hughes QC wrth y rheithgor bod Tierney wedi ymosod ar Nigel a Margery Gibbs ar 20 Awst gyda chyllell.

Cafodd y cwpl eu trywanu nifer o weithiau a dywedodd y barnwr eu bod yn “lwcus i fod yn fyw”.

Roedd Tierney wedi gwadu’r cyhuddiad pan gafodd ei arestio ac fe blediodd yn ddieuog fis Hydref y llynedd.

Dywedodd ei gyfreithiwr Sion ap Mihangel heddiw nad oedd Tierney yn cofio beth oedd wedi digwydd ond roedd yn derbyn ei fod wedi colli ei dymer, a’i fod yn credu ei fod wedi lladd y cwpl.

Fe fydd  Tierney yn cael ei ddedfrydu yfory.