Mae pwyllgor yn y Cynulliad wedi galw am ragor o gyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru.

Dywed y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod toriadau ariannol yn golygu bod llai o bobl yn ymwneud â’r celfyddydau erbyn hyn, ac mae nifer o brosiectau wedi dod i ben.

Dydy llawer o awdurdodau lleol ddim yn gallu cynnig perfformiadau a gwasanaethau gan nad ydyn nhw mewn sefyllfa i allu fforddio talu perfformwyr.

Mae’r pwyllgor yn barod i gydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tipyn o waith i hybu’r celfyddydau, ond maen nhw’n dweud nad yw hynny yr un peth â chynyddu cyfranogiad.

Dywedodd y pwyllgor y dylai’r Cyngor Celfyddydau ymdrechu i sicrhau nawdd o ffynonellau eraill, o bosib yn y sector preifat.

Roedd y pwyllgor wedi tynnu sylw at y ffaith fod sefyllfa’r celfyddydau’n waeth mewn ardaloedd gwledig oherwydd diffyg cyfleoedd i gyfranogi.

‘Lle hanfodol yn ein diwylliant’

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Ann Jones AC: “Mae sector y celfyddydau yng Nghymru yn ffyniannus ac yn amrywiol ac mae ganddo le hanfodol yn ein hanes a’n diwylliant.

“Clywsom am y rhan bwysig y mae rhaglenni celfyddydol a chyfleoedd yn eu chwarae ym mywydau pobl o amgylch y wlad a faint o’r cyfleoedd hynny sydd wedi diflannu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

“Credwn y gall, ac y dylai Llywodraeth Cymru, wneud mwy i sicrhau nad yw pobl o gymunedau gwledig dan anfantais o ran gallu cymryd rhan mewn ymdrechion diwylliedig.
“Daeth y Pwyllgor i’r casgliad hefyd y gallai Cyngor Celfyddydau Cymru roi mwy o gymorth ac arweiniad i sefydliadau o ran canfod ffynonellau ariannu eraill a chael mynediad atynt.”